Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Priorities for the Economy, Infrastructure and Skills Committee |
EIS 35 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
EIS 35 Older People’s Commissioner for Wales |
1 Medi 2016
Par: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Annwyl Gadeirydd,
Diolch am y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn[1]. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor yn eang ac mae’r holl faterion yn effeithio ar bobl hŷn drwy Gymru, ond tynnaf eich sylw at y materion penodol hyn i chi eu hystyried:
Darpariaeth cludiant cyhoeddus ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru
Mae’r gostyngiad mewn cyllid i wasanaethau cyhoeddus rheng flaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith enfawr ar allu pobl hŷn i deithio o gwmpas a gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt [2][3]. Mae nifer y gwasanaethau bysiau cyhoeddus wedi gostwng drwy Gymru, ac mae hyn wedi cael effaith niweidiol a dinistriol ar fywydau pobl hŷn, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Hefyd, mae gallu pobl hŷn i ddefnyddio dulliau cludiant eraill e.e. trenau wedi ei effeithio gan fod llai o wasanaethau bysiau sy’n mynd yn ôl a blaen i orsafoedd trefnau.
Mae effaith gronnus y newidiadau hyn yn golygu nad yw pobl hŷn yn gallu ymweld â ffrindiau neu deulu, cael mynediad i wasanaethau ac amwynderau allweddol, a mynd i’r feddygfa/ysbyty. Mae gallu pobl hŷn i gyfrannu at economïau a chymunedau lleol wedi lleihau oherwydd y gostyngiad yn lefel cludiant cyhoeddus. Mae gan gludiant cyhoeddus rôl enfawr i’w chwarae mewn cynnal iechyd, annibyniaeth a lles pobl hŷn, ac mae sicrhau bod pobl hŷn yn weithgar yn eu cymunedau yn llesol i’r unigolyn (yn lleihau’r angen am becynnau iechyd a gofal cymdeithasol statudol), yn dda i’r gymuned (gwell cyfleoedd i bobl o bob oed ryngweithio’n gymdeithasol), ac yn dda i’r economi (bod pobl hŷn yn gallu gwario mewn busnesau lleol a gweithio neu wirfoddoli). Mae cludiant cyhoeddus yn hollbwysig i ddatblygu fy null sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn seiliedig ar asedau i bobl hŷn, a hefyd mae'n cyfrannu tuag at Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Tra bod cyflwyno’r cynllun teithio ar fysiau am ddim yn 2002 wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn drwy Gymru, dim ond pan fo gwasanaeth bws ar gael y mae tocyn yn ddefnyddiol. Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran cludiant cyhoeddus yng Nghymru i bobl hŷn ac eraill? Oes yna gefnogaeth ddigonol i gynlluniau cludiant cymunedol, er enghraifft, er mwyn ‘llenwi’r bylchau’? Beth yw’r rhwystrau a beth ellir ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu parhau i fod yn ased i gymdeithas? Sut y gall Cymru helpu i sicrhau bod cludiant cyhoeddus yng Nghymru’n ystyriol o oed a dementia, fel sy’n cael ei hyrwyddo yn rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru[4]?Ac yn olaf, beth yw’r sefyllfa bresennol o ran ymrwymiad Strategaeth Pobl Hŷn Cam Tri gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad i gludiant fforddiadwy a phriodol sy’n eu helpu i chwarae rhan lawn mewn bywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol [5]?
Darparu hyfforddiant sgiliau ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru
Gan adeiladu ar Ymchwiliad i Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl dros 50 oed[6], prif rwystr i nifer o bobl hŷn sy’n ystyried parhau yn y gweithle neu gael ail-fynediad iddo, yw sgiliau cyfyngedig neu sgiliau sydd angen eu diweddaru. Yn dilyn yr Ymchwiliad, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i edrych ar lefel y gwahanaiethau canfyddedig neu wirioneddol ar sail oed o safbwynt sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth. Croesewir yr ymchwil hwn, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi datgan bod anghenion sgiliau pobl hŷn yn cael sylw mewn cynlluniau/rhaglenni ehanagch, gallai’r Ymchwiliad dilynnol hwn ystyried a oes angen strategaeth sgiliau benodol ar gyfer pobl dros 50 oed ar Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellir yn ei Strategaeth Pobl Hŷn Cam Tri.
I rai pobl, mae parhau yn y gweithle’n ffordd o ddal ati i fod yn weithgar a chael eu cynnwys yn gymdeithasol, tra bod gweithio wrth fynd yn hŷn yn hanfodol i eraill er mwyn ychwanegu at incwm a delio â’r cynnydd mewn costau byw. Amcangyfrifir bod 205,000 o bobl hŷn (50-64) yn NEETs (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ) yng Nghymru ac mae sicrhau bod gan bobl hŷn y setiau sgiliau priodol yn dda i’r unigolyn, i’r cyflogwyr a’r economi[7].
Beth yw’r setiau sgiliau arbennig sydd eu hangen ar bobl hŷn i barhau yn y gweithle neu gael ail-fynediad iddo? Ydi pobl hŷn yn ymwybodol o’r cyfleoedd i gael hyfforddiant sgiliau ac a ydyn nhw’n yn gallu cael mynediad atynt? Ydi sefydliadau addysg uwch a phellach yng Nghymru’n annog pobl hŷn i gymryd rhan a chael mynediad i’w cynlluniau/rhaglenni dysgu a sgiliau? Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod nifer cynyddol o bobl hŷn yn manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth? Ydi cyflogwyr yng Nghymru’n cael eu hannog i gyflogi gweithlu sy’n amrywio o ran oed/ cenedlaethau, a beth ellir ei wneud i gynyddu nifer y gweithleodd sy’n ystyriol o oed a dementia yng Nghymru? Yn olaf, a fyddai datganoli rhaglenni sgiliau’r Adran Gwaith a Phensiynau i Gymru’n golygu darpariaeth well a chynyddol i bobl hŷn sy’n ystyried dal ati i weithio neu fynd yn ôl i fyd gwaith?
Gobeithio y bydd y materion hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r Pwyllgor. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac eraill ar y materion hyn yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mae croeso i chi gysylltu â mi.
Cofion gorau
Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
[1] http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=217
[3] http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx#.V8boF2f6toJ
[4] http://www.ageingwellinwales.com/wl/home
[5] http://gov.wales/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?skip=1&lang=cy
[6] http://senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=11339